e3a8c78bf11caa5f5277253cb1645a34.png
 

padlfyrddio

Let's SUP

YMUNWCH Ȃ NI AR Y DŴR

yn Aberdyfi a Thywyn ar gyrion De Eryri

YR HYN SYDD GENNYM I’W GYNNIG

Profiad SUP Antur Aberdyfi:
Mae ein profiadau padlfyrddio hanner diwrnod yn para 2.5 awr ac rydym yn eu cynnal yn neu o gwmpas Aberdyfi, o gwmpas y llanw uchel yn y bore neu'n gynnar yn y prynhawn fel arfer. Rydym yn cynnig sesiynau grŵp bach ar gyfer hyd at 8 person am £60 y pen yn cynnwys yr holl offer SUP, siwtiau gwlyb, a defnyddio cyfleusterau newid Clwb Hwylio Dyfi. Yn ogystal â dysgu’r pethau sylfaenol a datblygu eich sgiliau padlo, byddwn yn mynd â chi ar daith fer i fyny ac i lawr aber hardd afon Dyfi. Y man cyfarfod arferol yw Clwb Hwylio Dyfi ond gall hyn newid yn dibynnu ar y tywydd. Mae’n bosibl y bydd sesiynau blasu byrrach ar gael yn hwyr yn y prynhawn/gyda’r nos. Defnyddiwch y ffurflen gysylltu i holi am eich dewis o amseroedd a dyddiadau, os gwelwch yn dda.

Sesiynau Blas ar SUP:  Mae’r sesiynau hyn yn para un awr, yn cynnig blas ar badlfyrddio a dysgu’r pethau sylfaenol i chi. £35 y pen yn cynnwys yr holl offer a siwtiau gwlyb. Gall y sesiynau hyn newid yn dibynnu ar y tywydd a’r llanw felly rydym yn eu cadarnhau 24 awr ymlaen llaw. Y man cyfarfod arferol yw Clwb Hwylio Dyfi ond gall hyn newid yn dibynnu ar y tywydd.

Hyfforddiant SUP un i un: Os hoffech gael sylw fel unigolyn, yna gallwn ddarparu hyfforddiant un i un. Y gost am hyn yw £80 yr awr a gallai fod yn opsiwn da os ydych chi’n llai hyderus neu os ydych wedi dysgu padlfyrddio’n barod ac eisiau canolbwyntio ar sgiliau penodol. Caiff yr holl offer ei ddarparu.

Sesiynau Cwpl/Grŵp : Os hoffech gael sesiwn preifat ar gyfer 2 neu 3 o bobl, gweler y prisiau isod: Blas ar SUP  (1 awr 15) £100 i grŵp preifat o 2 o bobl, £135 i 3 o bobl. Mae ein sesiynau grŵp agored yn cymryd uchafswm o 8 o bobl.

Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth a/neu i archebu sesiwn, anfonwch ebost atom i info@letssup.co.uk neu anfonwch neges trwy’r ddolen isod.

 

received_367288572697410_2.jpg